Dathliadau DylanEd!


Llongyfarchiadau i Sarah o flwyddyn 12 am gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth DylanEd eleni. Ffocws y gystadleuaeth oedd ysgrifennu adolygiad yn seiliedig ar un o lyfrau oedd ar restr fer gwobr ryngwladol Dylan Thomas. Fel rhan o’r seremoni wobrwyo, cyflwynwyd y tlws I Sarah gan awdures y llyfr ‘Pond’, Claire Louise Bennett, sef y llyfr adolygodd Sarah fel rhan o’r gystadleuaeth. Bachodd ein myfyrwyr ar y cyfle i sgwrsio gyda Hannah Ellis, sef wyres yr enwog Dylan Thomas ac fel rhan o’u gwobr, enillodd Sarah gopi o’r holl lyfrau ar y rhestr fer, yn ogystal â thocynnau i brif seremoni gystadleuaeth Dylan Thomas a enillwyd gan Max Porter am ei lyfr ‘Grief is the Thing with Feathers’. Mae’r adran Saesneg yn falch iawn o’m myfyrwyr safon uwch unwaith eto!

DylanEd2 DylanEd1