Newyddion yr Adran Chwaraeon


Llongyfarchiadau enfawr i Theo Morris sydd yn cael cryn dipyn o lwyddiant yn y maes Codi Pwysau. Mae Theo yn ddisgybl ym mlwyddyn 9 ac y mae wedi torri record Cymru i fechgyn dan 15 yn y categori dan 69kg. Fe wnaeth Theo gystadlu dros Gymru yn ddiweddar mewn cystadleuaeth allan yn Awstria.

Llongyfarchiadau enfawr i Lauren Smyth o flwyddyn 10. Fe wnaeth Lauren ennill ei chap cyntaf i dîm rygbi cyffwrdd agored menywod Cymru rhai wythnosau yn ôl. Fe wnaeth hi gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth Ewrop allan yn Jersey, gyda’r tîm yn dod yn ail yn y gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau i Iwan Beggs ( Bl 10) a Theo Morris ( Bl 9), gyda’r ddau yn cael tymor athletau llwyddiannus iawn. Roedd y ddau yn fuddugol yng nghystadleuaeth athletau’r sir yn ddiweddar gydag Iwan yn ennill y naid uchel a Theo yn ennill y 300m. Cafodd y ddau eu dewis i gynrychioli’r sir ym mhencampwriaeth athletau Cymru. Fe ddaeth Iwan yn 4ydd a Theo yn 5ed.

Mae Medi Phillips o flwyddyn 9 wedi cael llwyddiant arbennig yn jiwdo eleni. Fe ddaeth Medi yn ail yng Ngemau Cymru yn ddiweddar ac y mae wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Prydain Fawr ym mis Medi. Pob hwyl i ti!

Llun chwaraeon