Penwythnos yn y Pennines


Cynhelir taith lwyddiannus ar benwythnos y 7fed a 8fed Hydref gyda blwyddyn 12 yng ngogledd Lloegr. Ar ôl ymadael Bryn Tawe am 5 y bore ar ddydd Gwener, dechreuwyd siwrne hir i amgueddfa’r Brontë Parsonage yn Haworth (Swydd Efrog). Yn sicr, oedd y lleoliad yn hynod o bwerus ac oedd dylanwad yr ardal ar nofelau Charlotte ac Emily Bronte yn glir wrth feddwl am olygfeydd trawiadol ‘Jane Eyre’ a ‘Wuthering Heights’. Treuliwyd oriau diddorol yn gwrando ar hanes y teulu Brontë a chlywed am rhai o’r hanesion sbardunwyd llyfr gosod y dosbarth llenyddiaeth sef Jane Eyre. Yn wir, oedd rhai o aelodau’r dosbarth wedi mwynhau gwisgo yn nillad y cyfnod er mwyn camu nôl mewn amser. Yna dechreuwyd y daith i Fanceinion, a pherfformiad byth cofiadwy o’r ddrama gosod, sef ‘A Streetcar Named Desire’ gan Tennessee Williams- gyda Maxine Peake yn serennu fel y cymeriad adnabyddus Blanche Dubois. Treuliwyd penwythnos diwylliannol a diddorol, gyda diolchiadau i Mr Shaw am drefnu, ac i Miss Comley a Mr Ray Thomas am eu cefnogaeth yn ystod yr ymweliad.

lluniau-cps