Newyddion Adran y Gymraeg


Aeth criw o fl.13 i weld y ffilm Gymraeg newydd “Y Llyfrgell” yn Theatr Taliesin gan fwynhau’n fawr, ac yn ystod yr un wythnos, cafodd disgyblion bl.12 a 13 sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch gyfle i fynychu diwrnod o ddarlithoedd yn Academi Hywel Teifi. Diolch i’r Academi am drefnu sawl darlith werthfawr!

Unwaith eto eleni, dathlwyd Diwrnod T.Llew Jones gyda gwasanaeth i’w gofio a Helfa Drysor i fl.7 a 8 yn ystod y gwersi Cymraeg.

welsh-news-1

Trefnwyd gweithdy ysgrifennu i griw o fechgyn bl.10 o dan adain Prifysgol y Drindod Dewi Sant fel rhan o brosiect newydd. Daeth y Prifardd Aneirin Karadog i weithio gyda’r bechgyn am y diwrnod a chreu cerddi ar y thema Rhyfel. Erbyn diwedd y dydd, llwyddodd pawb i greu cerddi cofiadwy a chyflwyno’r cerddi i weddill y grŵp. Bydd cyfle i ddarllen y cerddi maes o law a chyfle i’r disgyblion fynd i’r Brifysgol i weld eu cerddi yn cael eu harddangos. Diolch i’r Brifysgol ac i Aneirin Karadog am y diwrnod!

welsh-news-2

Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus i ddisgyblion hŷn yr ysgol- trafodwyd pynciau amrywiol fel S4/C, mewnfudo, gwisg ysgol ac annibyniaeth i Gymru. Llongyfarchiadau i’r disgyblion a gymerodd rhan, sef Sara Dafydd, Catrin Hedges, Lizzie Lewis, Claudia Hughes, Amelia Williams, Brandon Cooper, Steffan Leonard, Carys Thomas a Nansi Eccott. Bydd Sara, Catrin a Steffan yn cynrychioli’r ysgol maes o law yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus y Rotari.

welsh-news-4