Gwireddu’r freuddwyd!


Mae disgyblion blwyddyn 10 wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf tuag at berfformiad fel rhan o’r ‘Shakespeare Schools Festival’ 2016. Dros ddwy noson, perfformiwyd chwe ysgol leol detholiadau o waith enwog William Shakespeare, gyda’n disgyblion ni yn perfformio ‘A Midsummer Night’s Dream.’ Roedd y disgyblion wedi cael profiad gwych o weithio mewn theatr leol, broffesiynol ac wedi cael adborth hyfryd o ran ei pherfformiadau a’i ymddygiad yn ystod y diwrnod. Mae ymrwymiad y disgyblion i’r prosiect wedi bod yn ardderchog, ac roeddent wedi cynnal perfformiad bythgofiadwy a llawn canmoliaeth ar y noson.

Dywed Caitlyn, a wnaeth cymryd rôl cymeriad enwog y sioe, sef Bottom: Fe wnes i bortreadu’r cymeriad ‘Bottom.’ Braint a theimlad bythgofiadwy oedd camu ymlaen ar lwyfan gyda fy ffrindiau ac i berfformio mewn sioe mor wahanol. Gyda help Miss Comley roedd y perfformiad yn un hynod o broffesiynol ac aeddfed – wel, mor aeddfed ac oedd e’n gallu fod gan ddaw comedi oedd ein perfformiad! Nid oeddwn i’n disgwyl derbyn y cymeriad o gwbl, felly roedd hyn wir wedi datblygu fy hyder a gweld roeddwn i’n ddigon da i berfformio un o’r prif rannau o flaen cynulleidfa gyflawn. Diolch i Miss Comley ac i’r adran Saesneg!

Ychwanegwyd Steffan, a wnaeth chwarae rhan Lysander: Braint a theimlad bythgofiadwy oedd gallu troedio ar lwyfan gyda fy nghyd-ddisgyblion. Roedd y broses o gynhyrchu’r sioe yn anhygoel ac yn gyffrous. Ond yr oedd y broses yn hawdd o dan arweiniad Miss Comley. Roedd y cynhyrchiad yn teimlo fel un proffesiynol, gyda’r golau a’r sain a phob peth byddai mewn cynhyrchiad go iawn. Ar ôl y perfformiad teimlais gyffro a braint wrth i’r gynulleidfa cymeradwyo gwaith yr ysgol. Teimlaf fod y Shakespeare Schools Festival yn rhoi cyfleoedd di-ri i bobl na fyddai fel arfer yn perfformio ar lwyfan i gael y teimlad a’r balchder yna, ac yn hybu hyder nifer fawr o berfformwyr ifanc fel fi.

mnd-1