Diwrnod Dahlightful!


 

Treuliodd disgyblion blwyddyn 7 ddiwrnod cyffrous yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd wythnos diwethaf wrth ymweld â’r arddangosfa ‘Wondercrump’ a mynychu gweithdy ysgrifennu creadigol yn dathlu doniau’r awdur enwog, Roald Dahl. Llwyddodd y disgyblion i gael blâs ar ddychymyg a storiâu’r awdur enwog o Gaerdydd a chyfrannodd pawb at ysgrifennu cerddi yn seiliedig ar eirfa Roald Dahl. Diolch yn fawr i Mrs Lisa Davies, Miss Catherine Thomas a Mr Duncan Rowe am dywys y disgyblion.

wondercrump-2wondercrump-3