Y Cwsg Mawr


Ar nos Wener oer ym mis Tachwedd cynhaliwyd ein Cwsg Mawr blynyddol i flwyddyn 8. Roedd hi’n noson o weithgareddau llawn hwyl a phawb yn mwynhau cael y cyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd cyfle i nofio, creu fideo, chwarae ‘dodgeball’ a chymryd rhan mewn her model. Cafwyd gwledd o bitsa a disgo i orffen y noson cyn ei throi hi am y nos. Torrwyd y record am y mwyaf o gwsg eleni, gyda phedair awr! Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!!