Gweithdy yng nghwmni Aneurin Karadog


Cafodd deunaw o fechgyn bl.9 y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy diwrnod gyda’r Prifardd Aneirin Karadog. Heriwyd y disgyblion i ysgrifennu cerddi am ryfel a chafodd pawb gyfle i ddarllen eu cerddi ar goedd ddiwedd y dydd, gyda rhai yn rapio’r cerddi i gyfeiliant pastwn Aneirin. Diolch i Aneirin am roi o’i amser a’i arbenigedd a llongyfarchiadau i’r bechgyn ar greu cerddi cofiadwy a fydd i’w gweld mewn arddangosfa yn yr ysgol cyn bo hir.

aneurin-2aneurin-1