Cynhaliwyd ein Seremoni Gadeirio ar Fawrth y 1af fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Eleni, paratowyd cadair newydd sbon ar gyfer yr achlysur. Un a fydd yn cael ei defnyddio a’i thrysori am flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr iawn i Mr Brian Evans a Mr Bridgens am eu gwaith cywrain yn llunio’r gadair hardd. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i brif swyddogion yr ysgol, sef Anna Mathews a Iestyn Davies a lwyddodd i lywyddu’r seremoni’n wych.
Eleni, y Prifardd Aneirin Karadog oedd y beirniad. Braf oedd ei groesawu nôl atom ar ôl iddo gynnal dau weithdy barddoniaeth yn ddiweddar yn yr ysgol gyda bechgyn bl.9 a 10.
Roedd pawb yn gwrando’n astud ar y feirniadaeth ar gyfer y Gadair ac fe ddaeth hi’n amlwg bod ‘Saunders 2’ wedi plesio’r beirniaid yn fawr. Hyfryd oedd gweld Sara Dafydd o Flwyddyn 13 yn codi o’i sedd yng nghefn y neuadd lawn i dderbyn y fraint o fod yn brif lenor yr ysgol eleni. Llongyfarchiadau enfawr iddi. Yn ail am y gadair oedd Lowri Powell o fl.10, gyda Hannah Morgan o fl.10 yn drydydd. Hoffai’r Adran Gymraeg ddiolch yn fawr i bawb a gystadlodd ac yn arbennig i’r staff a’r disgyblion a fu’n rhan o’r seremoni- yn enwedig Jasmine Lewis a Rhys Whatty am gyfeilio ar y delyn, Kirsty Lewis am ganu cân y cadeirio, Rachel Hadley a Sam Dawson am ganu’r ffanffer a Tara Camm a Rhys Evans am gyrchu’r buddugol. Hyfryd hefyd oedd gweld cynrychiolwyr o bob blwyddyn ar y llwyfan a hwythau wedi’u dewis am ymrwymiad i Gymreictod yn yr ysgol.
Llongyfarchiadau hefyd i Bethan Levy am ennill y Tlws Saesneg.
Dyma’r canlyniadau llenyddol eraill:
Barddoniaeth Bl.7
1af- Angharad James
2il- Dafydd Roberts
3ydd- Kiera Fetch
Rhyddiaith Bl.7
1af- Sion Thomas
2il- Mirain Owen
3ydd- Anest Cunliffe
Barddoniaeth Bl.8
1af- Ffion Tomos
2il- Annwen Morgan
3ydd- Ben Lervy a Hannah Non Cordingly
Rhyddiaith Bl.8
1af- Ffion Tomos
2il- Amy Johnson
3ydd- Grace Lancey
Barddoniaeth Bl.9
1af- Thea Wood
2il- Aaliyah Janes
3ydd- Erin Owens
Rhyddiaith Bl.9
1af- Angharad John
2il- Thea Wood a Megan Davies
3ydd- Cameron Jenkins a Erin Owens
Adolygiad ffilm
1af- Jasmine Lewis
2il – Ffion Gould
3ydd- George Foley
Barddoniaeth Bl.10
1af- Lowri Powell
2il- Hannah Morgan
3ydd- Lowri Evans
Rhyddiaith Bl.10
1af- Rhys Beynon
2il- Manon Keeble
3ydd- Rhodri Jenkins
Rhyddiaith Bl.12 a 13
1af- Sara Dafydd
2il- Rhydian Cleaver
3ydd- Sara Dafydd