Diwrnod y Llyfr 2017


Dathlwyd Diwrnod y llyfr unwaith eto eleni gydag amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwyd y dathliadau gyda Gwasanaeth Diwrnod y Llyfr. Y Chweched arweiniodd y gwasanaeth a dangoswyd DVD a grëwyd dros yr wythnosau diwethaf o aelodau o’r Chweched a’r staff yn sôn am yr hyn maen nhw’n darllen ar hyn o bryd.

Hyfryd oedd gweld bod criw o staff a disgyblion yr ysgol wedi dangos cryn ddychymyg wrth wisgo fel cymeriadau o lyfrau.

Ar ddiwedd pob gwers yn ystod y dydd, ar y “tannoy”, darllenwyd addasiad o stori fer, gyda Mr Davies, Mr Jenkins a Mrs Edwards-Jones yn arddangos sgiliau actio gwych! Roedd pawb wedi clywed y stori gyfan erbyn diwedd y dydd.

Yn ystod amser egwyl, cynhaliwyd bore coffi a daeth Siop Tŷ Tawe i werthu llyfrau amrywiol.

Aeth y criw o fl.13 sy’n astudio Cymraeg i berfformio chwedl Branwen i blant Ysgol Felindre. Defnyddiwyd props gwreiddiol tu hwnt!

Cafodd criw o fl.9 gyfle i ddarllen gydag ysgolion Tirdeunaw, Lon Las a Gellionnen. Darllenwyd 5 stori i’r plant mewn cylchdro a chafwyd pleidlais am hoff lyfr y plant.

Gobeithio i bawb gael eu hatgoffa o’r mwynhad sydd i’w gael o ddarllen llyfrau.