Gweithdy gyda Huw Aron


Cafodd criw o fechgyn bl.7 a 8 gyfle i brofi gweithdy gyda’r awdur a’r artist Huw Aaron ddydd Gwener 3/3/17. Huw Aaron sy’n creu’r cylchgrawn cartwn Mellten ac roedd y disgyblion wrth eu boddau’n darllen y cylchgrawn ac yna’n creu eu cymeriadau cartwn eu hunain a straeon bach.

Un o’r bechgyn a oedd yn rhan o’r gweithdy oedd Morgan Greenway “Dysgais sut i greu cartwnau diddorol er mwyn helpu plant i fwynhau darllen. Dysgon ni sut i ddangos emosiynau positif a negatif. Diolch i Huw Aaron am ddod aton ni”.