Arolwg o brydau ysgol yn Abertawe


Mae’r Awdurdod Lleol yn gwahodd rhieni a gofalwyr ein plant i fynegi eu barn ar brydau ysgol fel rhan o adolygiad y cyngor sy’n edrych ar ei holl wasanaethau arlwyo. Drwy gymryd rhan, gallwch sicrhau bod barn rhieni a gofalwyr yn cael ei hystyried wrth nodi’r ffordd ymlaen ar gyfer darpariaeth arlwyo mewn ysgolion.

 

Ni wnaed unrhyw benderfyniadau ar y cam hwn. Bydd gwybodaeth a gesglir yn yr arolwg hwn yn dylanwadu ar yr opsiynau a gyflwynir yn y dyfodol. Mae’r cyngor hefyd yn casglu barn drwy weithgareddau eraill, a byddwn yn cymharu â rhannau eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat.

 

Mae’r arolwg ar gael ar-lein yn http://www.abertawe.gov.uk/article/33742/Arlwyo-Cyfle-i-Ddweud-eich-Dweud