Gwobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd


Llongyfarchiadau i Siôn Thomas Bl.7 ar ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth ysgrifennu rhyddiaith i fl.7!

Llongyfarchiadau i grŵp o ddisgyblion iau yr ysgol am ennill yr ail wobr yn y gystadleuaeth creu Cywaith i flynyddoedd 7-9 yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Y thema oedd “Chwedlau” a chrëwyd llyfryn a DVD ar y thema.

Daeth llwyddiant hefyd i’r cywaith hŷn wrth iddynt ennill y wobr gyntaf am eu cywaith nhw mewn cystadleuaeth i rai o dan 25ain oed. Creu gwefan ar y thema “Bro” oedd y dasg i’r disgyblion hŷn.