Gwobr Sefydliad Morgan Parry


Pleser oedd croesawu Jane Davidson atom yn ddiweddar i gyflwyno gwobr Sefydliad Morgan Parry i griw o fl.8. Y dasg a osodwyd gan y Sefydliad eleni oedd creu ffilm fer ar y testun “Cymru a Garem”. Aeth Ffion Tomos, Anwen Morgan, Jack Thomas a Toby Porter ati i greu ffilm yn dangos eu breuddwydion am Gymru’r dyfodol- gan sôn am genedl sy’n gwarchod yr amgylchedd, sy’n byw’n iach, sy’n estyn llaw i helpu eraill, sy’n parhau i warchod ein diwylliant a chenedl a gyrhaeddodd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Casglwyd Bl.8 at ei gilydd er mwyn mwynhau’r fideo ac er mwyn gwobrwyo’r pedwar. Llongyfarchiadau iddynt am greu ffilm ddifyr a chynhwysfawr!