Criw sy’n astudio Cymraeg yn y Chweched


Llongyfarchiadau i Laura Hughes Bl.13 am ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Dafydd Rowlands eleni. Roedd y beirniad, T.James Jones, yn canmol ei gwaith yn fawr. Da iawn hefyd i Catrin Hedges am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr.

Llongyfarchiadau i Sara Dafydd Bl.13 am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc eleni o dan 25 oed yn Eisteddfod yr Hendy a hynny mewn cystadleuaeth lle cafwyd 35 ymgais. Da iawn hefyd i Rhydian Cleaver Bl.12 am gyrraedd y rhestr fer.

Hyfryd oedd clywed am lwyddiant dwy o fl.13 yn ennill ysgoloriaethau i barhau i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol y flwyddyn nesaf. Enillodd Sara Dafydd un o ysgoloriaethau creadigol Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a Laura Hughes ysgoloriaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Pob dymuniad da iddynt y flwyddyn nesaf!