Diwrnod Dadleuol


Hoffai’r ysgol diolch o galon i’r ESU am eu parodrwydd i ymweld â Bryn Tawe a chynnig gweithdy ar ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus rhai o ddisgyblion blwyddyn 8. Bu’r profiad yn un diddorol a braf oedd nodi ymateb y disgyblion ar sut oedd y strategaethau a drafodwyd wedi datblygu eu hyder. Edrychwn ymlaen at fwy o lwyddiant i’r ysgol yng nghystadleuaeth yr ESU flwyddyn nesaf.

Dyma rhi o sylwadau’r disgyblion a fu’n rhan o’r gweithdy:

‘Wnes i wir fwynhau’r profiad o weld fy hyder yn datblygu drwy ymarfer y sgil o siarad yn gyhoeddus’ Lauren Miller

‘Yr uchafbwynt i mi oedd y cyfle i gwestiynu disgyblion eraill. Dwi’n awyddus i fentro a chymryd rhan yn y gystadleuaeth go-iawn’ Jack Thomas