Taith Bl.8 i Fae Caerdydd


Thema Bl.8 yn y gwersi Cymraeg y tymor hwn yw “Cymru”. Felly, unwaith eto eleni, aeth 50 disgybl ar daith i Fae Caerdydd, ddydd Gwener, Mehefin yr 16eg. Cawsant gyfle i fwynhau taith o gwmpas Canolfan y Mileniwm a thaith o gwmpas y Cynulliad. Heb anghofio, wrth gwrs, mwynhau cinio a hufen ia blasus yn y Bae cyn dychwelyd i’r ysgol.