Gwobrwyo yn y Senedd


Ar brynhawn Iau, Mehefin 22ain aeth criw o flwyddyn 8 i’r Senedd ym Mae Caerdydd ar gyfer seremoni gwobrwyo Y Rotari. Gwahoddwyd pedwar o ddisgyblion blwyddyn 8 i’r seremoni oherwydd safon uchel eu gwaith, sef Ffion Tomos, Anwen Morgan, Ben Lervy a Jack Thomas. Ysgrifennon nhw ddarnau creadigol a thrawiadol ar y thema ‘Byd o Harddwch’ gan drafod themau a phynciau megis bai ar gam, gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym, gwarchod yr amgylchedd , caredigrwydd a dynoliaeth. Galwyd y pedwar i’r llwyfan i dderbyn tystysgrifau gan Rhiannon Passmore AC. Wedi hynny cyhoeddwyd bod Jack wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth a dychwelodd i’r llwyfan i dderbyn ei dystygrif a’i wobr. Cafwyd canmoliaeth uchel i waith pob un gan y beirniad. Llongyfarchiadau i bob un, ac yn enwedig Jack!