Llongyfarchiadau mawr i Iwan Beggs  a wnaeth gynrychioli tîm athletau Cymru dan 17 allan yn Nulyn dros y penwythnos diwethaf. Mae Iwan wedi cael llwyddiant ysgubol yn ystod y tymor, yn fuddugol yn y naid uchel ar lefel sirol yn ogystal â dod yn bencampwr Cymru yng ngemau Cymru dros yr wythnosau diwethaf .