Llwyddiant ESU!


Llongyfarchiadau i’r tîm siarad cyhoeddus ar ei buddugoliaeth yn rownd ranbarthol o gystadleuaeth siarad gyhoeddus yr ESU. Bydd y tîm (Manon, Rhys a Steffan) bellach yn symud ymlaen i gynrychioli’r rhanbarth yn rownd derfynol Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd mis Mawrth nesaf. Diolch hefyd i dimau o Ysgol y Strade a Phontarddulais am brynhawn brwd o ddadlau. Enillodd Steffan y wobr am gadeirydd orau a Manon am siaradwraig orau. Diolch i Mr Shaw am ei hyfforddi a phob lwc yng Nghaerdydd.