Ymweliad Awdur


Hoffai’r ysgol ddiolch i’r awdur, Phil Carradice, am ymweld â’r ysgol ar fore Mawrth, 28ain Dachwedd er mwyn trafod ei nofel ‘The Black Chair’ sydd yn seiliedig ar stori’r bardd ‘Hedd Wyn’. Bu’r ymweliad yn rhan o brosiect trawsadrannol rhwng yr adrannau Saesneg, Cymraeg ac Ieithoedd Modern sy’n ffocysu ar Hedd Wyn er mwyn nodi’r ganrif ers ei farwolaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn sicr, wnaeth blwyddyn 9 ymddiddori yn straeon Phil am yr holl waith ymchwil a wnaethpwyd er mwyn arwain at y llyfr.