Newyddion Adran y Gymraeg


Llongyfarchiadau mawr i dîm Siarad Cyhoeddus Cymraeg yr ysgol am ennill y drydedd wobr yn rownd derfynol Cystadleuaeth y Rotari yn y Senedd yng Nghaerdydd. Eu dadl oedd “Help neu hinderance– Dyma enghraifft arall ohonom yn colli brwydr yr iaith”. Yn cadeirio’r drafodaeth oedd Rhydian Cleaver, yn cynnig y gosodiad oedd Nansi Eccott ac yn gwrthwynebu oedd Steffan Leonard. Llongyfarchiadau hefyd i Nansi ar ennill yr ail wobr am y cynigydd gorau!

Cafodd pedwar disgybl brofiadau gwych ar gwrs Safon Uwch Cymraeg yng Nglan-llyn. Cawsant ddarlithoedd gan lu o lenorion, yn eu plith Karen Owen, Ifor ap Glyn, Caryl Lewis, Manon Steffan Ross a Myrddin ap Dafydd. Wedi darlithoedd yn y dydd, roedd twmpath a thalwrn gyda’r nos. Profiad arbennig! Llongyfarchiadau i’r tîm (Heledd Owen, Nel Richards, Angharad Thomas a Betsan James) am ddod yn gydradd trydydd yn y Talwrn!

 

Daeth Cwmni “Mewn Cymeriad” i berfformio drama am Kate Roberts i ddisgyblion blwyddyn 10, 11 a’r Chweched nos Iau, Tachwedd yr 16eg. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i gael cipolwg ar fywyd “Brenhines ein Llen”.