Gweithgareddau Gyrfa Cymru


Ffug gyfweliadau yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryntawe.

Aeth cyflogwyr a Gyrfa Cymru i Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryntawe am ddau ddiwrnod y tymor hwn i gynnal ffug gyfweliadau gyda Blwyddyn 11. Roedd hyn yn galluogi pobl ifanc i ymarfer ar gyfer unrhyw gyfweliad swydd y byddant yn ei gael yn y dyfodol.

Cyfweliadau 6ed dosbarth

Cynhaliodd cynghorydd Gyrfa Cymru yr ysgol ffug gyfweliadau gyda’r rhai yn y 6ed dosbarth nad ydynt eisiau mynd i’r brifysgol er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y byd gwaith.

Sioe deithiol y cyfnod pontio ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol

Aeth disgyblion y Tŷ o Ysgol Gyfun Gŵyr i sioe deithiol pontio gyda chynghorydd Gyrfa Cymru yr ysgol a staff y Tŷ.  Roedd modd i’r bobl ifanc gwrdd a siarad â sefydliadau sy’n gallu eu helpu gyda’u camau nesaf

Cyfweliadau Cyfarwyddyd Gyrfaoedd gyda

Blynyddoedd 11, 12 a 13

Mae Cynghorydd Gyrfa Cymru yr ysgol wedi dechrau gweld myfyrwyr Blynyddoedd 11, 12 a 13 er mwyn eu helpu i gynllunio eu camau nesaf. Mae Rhiannon Churchill Rhiannon.churchill@gyrfacymru.com 07890274819 ar gael yn Ysgol Gyfun Gŵyr bob dydd Llun a dydd Iau, ac yn Ysgol Gyfun Bryntawe bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Mae croeso i bawb alw i mewn. 

Sesiynau ABCh ynglŷn â’r dewisiadau ar ôl Blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Bryntawe.

Cynhaliodd cynghorydd Gyrfa Cymru sesiynau gyda Blwyddyn 11 ynglŷn â’r holl ddewisiadau ar ôl Blwyddyn 11 i helpu’r disgyblion i wneud penderfyniadau cytbwys. Ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn ar www.gyrfacymru.com. Edrychwch hefyd ar dudalennau Facebook a Twitter Gyrfa Cymru

Nosweithiau agored a Dyddiadau Pwysig

I gael rhagor o wybodaeth am nosweithiau agored a dyddiadau pwysig cysylltwch â Rhiannon Churchill – cynghorydd Gyrfa Cymru Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryntawe

Rhiannon.churchill@gyrfacymru.com 07890274819