Cofio Hedd Wyn


Yn ystod y tymor, bu’r adran Gymraeg, Saesneg a Ieithoedd Modern yn cyflwyno i ddisgyblion blwyddyn 9 agweddau ar fywyd Hedd Wyn a chynhaliwyd Bore Coffi yn yr ysgol ym mis Rhagfyr i gofio bod can mlynedd ers iddo gael ei ladd. Cafodd neuadd yr ysgol ei throi’n amgueddfa am y bore a thasg y disgyblion oedd paratoi adnodd i’r amgueddfa i addysgu eraill am ei fywyd. Cafwyd tasgau amrywiol e.e pamffledi, cyfweliadau, darnau creadigol a pharatwyd clipiau fideo a chyflwyniadau Sway. Llongyfarchiadau arbennig i Ethan Morgan am ail-greu’r gadair a enillodd Hedd Wyn!