PENCAMPWYR CWPAN Y GWEILCH


Llongyfarchiadau enfawr i garfan rygbi blwyddyn 8 am gael eu goroni fel Pencampwyr y Rhanbarth. Ar ôl curo Ystalyfera o 20-5 yn rownd derfynol gorllewin y gweilch fe aeth y garfan ymlaen i chwarae Maesteg i weld pwy oedd tim gorau’r rhanbarth. Roedd hi’n gêm a hanner ac yn hysbyseb arbennig i rygbi ysgolion. Hyd yn oed gyda’r tywydd gwael roedd y bechgyn yn ceisio chwarae rygbi da ac yn barod i ymosod o unrhyw le. Roedd hi’n gêm gorfforol iawn a bechgyn mawr Maesteg yn ffyrnig yn ardal y tacl, rhaid rhoi bob clod iddyn nhw.  Ar ddiwedd y gêm y sgôr derynol oedd 15-14 i Fryntawe. Hyfryd oedd gweld gwynebau’r carfan ar ôl ei hymdrechion.  Perfformiad pen i gamp ac nawr mae’r garfan yn mynd ymlaen i herio Bro Dinefwr yn rownd 32 olaf cwpan Cymru. Pob lwc!!!