Perfformio Shakespeare


Llongyfarchiadau i bedwar o’m disgyblion – Ffion Tomos, Anwen Morgan ac Ashton Williams (blwyddyn 9) ac i Siôn Thomas (blwyddyn 8) am lwyddo cyrraedd ail rownd cystadleuaeth “ESU Performing Shakespeare” eleni. Bydd y pedwar yn perfformio yn y rownd nesaf yng Nghaerdydd yn Chwefror. Mae Ffion ac Anwen yn perfformio golygfa o “A Midsummer Night’s Dream”, ac mae Ashton a Siôn yn perfformio golygfa o “Hamlet”. Pob lwc iddyn nhw a diolch i Miss Carys Comley am eu hyfforddi!