Llwyddiant “Performing Shakespeare”


Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 8 a 9 sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Prydain o gystadleuaeth “Performing Shakespeare” gyda’r ESU eleni. Roedd Ashton Williams, Ffion Tomos, Anwen Morgan (blwyddyn 9) a Siôn Thomas (blwyddyn 8) wedi cystadlu yn erbyn disgyblion o ledled Cymru ar ddydd Gwener 9fed o Chwefror yng Nhgaerdydd. Fydd y pedwar yn teithio i Lundain ym mis Mawrth i gystadlu yn Theatr Wyndham’s yn erbyn disgyblion o ysgolion ar draws Prydain. Fe fydd Ffion ac Anwen yn perfformio golygfa o “A Midsummer Night’s Dream” ac Ashton a Siôn yn perfformio rhan o “Hamlet.” Dyma’r ail dro i Ashton cael cyfle i gystadlu yn y gystadleuaeth a’r tro cyntaf i’r gweddill – pob lwc iddyn nhw gyd!