Cynhaliwyd ein Seremoni Gadeirio ar Fawrth y 1af fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i rai o brif ddisgyblion yr ysgol, sef Jasmine Lewis a Iwan Tomos.
Eleni, y Prifardd Osian Rhys Jones oedd y beirniad, sef enillydd cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn yn 2017. Cawsom ei feirniadaeth ar ffurf fideo a ddangoswyd yn ystod y seremoni a diolchwn iddo am ei holl waith trylwyr wrth feirniadu.
Daeth hi’n amlwg bod ‘Y Real Slim Shady’ wedi plesio’r beirniaid yn fawr. Hyfryd oedd gweld Rhydian Cleaver o Flwyddyn 13 yn codi o’i sedd yng nghefn y neuadd lawn i dderbyn y fraint o fod yn brif lenor yr ysgol eleni. Llongyfarchiadau enfawr iddo. Yn ail am y gadair oedd Nel Richards o fl.12, gyda Nel unwaith eo yn gydradd drydydd gyda Sion Thomas o fl.8! Hoffai’r Adran Gymraeg ddiolch yn fawr i bawb a gystadlodd ac yn arbennig i’r staff a’r disgyblion a fu’n rhan o’r seremoni- yn enwedig Rhys Whatty am gyfeilio ar y delyn, Annwen Breakspear am ganu cân y cadeirio, Mrs Shanklin am ganu’r ffanffer a Bethan Hawkins a George Griffiths am gyrchu’r buddugol. Hyfryd hefyd oedd gweld cynrychiolwyr o bob blwyddyn ar y llwyfan a hwythau wedi’u dewis am ymrwymiad i Gymreictod yn yr ysgol.
Llongyfarchiadau hefyd i Ffion Tomos am ennill y Tlws Saesneg.
Dyma’r canlyniadau llenyddol eraill:
Barddoniaeth Bl.7
1af- Ella Mai Davies
2il- Ffion Rachel Jones
3ydd- Holly Crocker a Evie Harris
Rhyddiaith Bl.7
1af- Kaitlin Reilly
2il- Ceris Wood
3ydd- Ella Mai Davies
Barddoniaeth Bl.8
1af – Sion Thomas
2il – Marcus O’Brien
3ydd- Carys Evans
Rhyddiaith Bl.8
1af- Mirain Owen
2il- Ella Cutforth ac Anest Cunliffe
3ydd- Laicee John
Barddoniaeth Bl.9
1af- Ffion Tomos
2il- Anwen Morgan
3ydd- Catrin Kiernan ac Aimee Kelly
Rhyddiaith Bl.9
1af- Jack Thomas
2il- Raife Jones a Joseph Elsey
3ydd- Ffion Tomos
Barddoniaeth Bl.10
1af- Thea Wood
2il- Ffion Whitehead
3ydd- Ffion Gould a Tirion Beynon
Rhyddiaith Bl.10
1af- Megan D
2il- Ffion O D ac Abby Rees
3ydd- Grace James