Ymarfer Sylwebu!


Diolch yn fawr i’n cyn-ddisgybl, Sioned Dafydd, am ddod atom i gynnal gweithdy bore i griw o fechgyn bl.9. Cawsant eu hyfforddi sut i sylwebu ar gêm bêl-droed/ rygbi a sut i ysgrifennu adolygiad o gêm. Diolch i Sioned am ysbrydoli’r disgyblion a dymunwn yn dda iddi ar ei thaith i Awstralia ymhen rai wythnosau gyda Chriw Cyfryngau Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.