Dathlwyd Diwrnod y llyfr unwaith eto eleni gydag amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwyd y dathliadau gyda Gwasanaeth Diwrnod y Llyfr. Y Chweched arweiniodd y gwasanaeth a dangoswyd DVD a grëwyd dros yr wythnosau diwethaf o aelodau o’r Chweched a’r staff yn sôn am eu hoff lyfrau.
Yn ystod amser egwyl, cynhaliwyd bore coffi a daeth Siop Tŷ Tawe i werthu llyfrau amrywiol.
Cafodd criw o fl.9 gyfle i ddarllen gydag ysgolion Tirdeunaw, Lon Las, Ysgol y Cwm ac Ysgol Tan-y-Lan. Darllenwyd 5 stori i’r plant mewn cylchdro a chafwyd pleidlais am hoff lyfr y plant.
Yn ystod yr awr ginio, cynhaliwyd Cwis Llyfrau i ddisgyblion a staff a oedd yn dipyn o hwyl!
Lansiwyd hefyd llyfr “Doniau Disglair” a werthwyd am £1 yn ystod y dydd. Yn y llyfryn, roedd gwaith holl fuddugwyr y cystadlaethau llenyddol yn ein Seremoni Gŵyl Ddewi eleni.
Gobeithio i bawb gael eu hatgoffa o’r mwynhad sydd i’w gael o ddarllen llyfrau.