Gweithdai diweddar!


Diolch yn fawr i Aneirin Karadog am sesiwn defnyddiol tu hwnt ym mis Mawrth ar rai o gerddi’r cwrs Safon Uwch a diolch i Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe am drefnu!

Ysgrifennu penillion a cherddi am Gymru oedd y dasg a roddwyd i fl.8 wrth iddynt fwynhau gwers yng nghwmni Aneirin Karadog. Cafodd pob dosbarth ym mlwyddyn 8 un sesiwn gyda’r bard yn ymateb i’r testun “Beth yw’r ots gennyf fi am Gymru?”. Cyfansoddwyd cerddi gwreiddiol iawn!

Cafodd criw o fechgyn bl.9 gyfle i fynychu gweithdy gyda Sioned Dafydd ym mis Mawrth. Rhannodd Sioned ychydig o’i phrofiad fel sylwebydd chwaraeon i S4/C ac fe aeth y bechgyn ati i ysgrfiennu adolygiadau o gemau rygbi a phel-droed.