Dathlu Dylan Thomas


Diolch yn fawr i griw o ddisgyblion ym mlwyddyn 8 am eu holl waith caled yn creu ffilm yn seiliedig ar fywyd Dylan Thomas, sef ‘Down with Dylan’. Mae holl ddisgyblion blwyddyn 8 wedi bod yn brysur yn astudio bywyd a barddoniaeth un o enwogion Abertawe, gan gynnwys ymweliadau a’r ganolfan Dylan Thomas (diolch i Jo Furber) a’r tŷ le ganwyd y bardd yn yr Uplands (diolch enfawr i Geoff Haden y perchennog). Hoffai’r adran Saesneg ddiolch o galon i’r holl bobl a bu’n rhan o’r prosiect gan gynnwys yr Athro Daniel Williams o Brifysgol Abertawe, yr awdur Alun Gibbard, ac wyres Dylan Thomas, sef Hannah Ellis. Braint oedd cyflwyno’r ffilm yn premiere yn Theatr y Taliesin ar ddiwrnod Dylan Thomas. Mwynhewch y ffilm!

https://www.youtube.com/watch?v=XTo68_jKJ-g