Llwyddiant Eisteddfodol.


Yn ystod hanner tymor y Sulgwyn aeth tua 80 o blant o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd. Roedd 16 o eitemau gan yr ysgol yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod gan gynrychioli Gorllewin Morgannwg. Rhai o’r cystadlaethau hyn oedd, y côr blynyddoedd 7 – 9, y parti llefaru, y parti cerdd dant, cystadleuaeth cogurdd a chôr merched hŷn yr ysgol, i enwi ond ychydig gystadlaethau. Bu’r ysgol yn llwyddiannus gyda 4 cystadleuaeth yn cyrraedd y llwyfan, gan gynnwys Steffan Leonard, oedd yn llefaru’n unigol a Catrin Kiernan a ffion Tomos yn oedd cystadlu yn y ddeuawd. Cafwyd sawl llwyddiant llenyddol hefyd gyda Sion Thomas yn  ennill y drydedd wobr un y farddoniaeth i flwyddyn 8 ac wrth greu cynnyrch digidol dan 19. Bu’r ysgol yn fuddugol hefyd wrth greu cywaith a chreu gwefan. Llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm â’r cystadlu!