Llwyddiant llenyddol diweddar


Llongyfarchiadau i Siôn Thomas ar ennill y drydedd wobr am farddoniaeth Bl.8 yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Llwyddodd grŵp o ddisgyblion bl.7-9 i gipio’r wobr gyntaf am greu cywaith Bl.7-9 o dan y teitl “Bydoedd Eraill”, a bu’r disgyblion hŷn yr un mor llwyddiannus wrth ennill y Cywaith o dan 25ain oed.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Betsan James o fl.13 am ennill Tlws yr Ifanc o dan 25 oed yn Eisteddfod Gadeiriol yr Hendy eleni. Ymgeisiodd 50 yn y gystadleuaeth ac roedd y beirniad Dyfrig Davies yn uchel iawn ei ganmoliaeth o ddarn ysgafn gan Betsan ar y teitl “Y Dêt”. Da iawn hefyd i Rhydian Cleaver a Heledd Owen am ddod yn agos i’r brig.