Ffair Iechyd


Ar fore dydd Iau 12.7.18 cynhaliwyd Bŵm Iechyd Bryn Tawe o dan adain ein cwrs Camu.  Gwelir ddisgyblion bl 7 saith yn dangos ffrwyth wythnosau o waith wrth iddynt arddangos eu canfyddiadau ymysg y maes Iechyd a Lles i ddisgyblion bl 8. Gwelir arddangosfeydd ar ystod eang o themau e.e. ffitrwydd, bwyta’n iach a iechyd meddwl. Cawsom Leon o gyfres ffitrwydd S4C “Ffit Cymru” fel siaradwr gwadd  er mwyn trafod ei siwrne o newid ei ffordd o fyw o ran bwyd a ffitrwydd ar y rhaglen a cholli bron i bedair stôn o fewn 8 wythnos – wrth wneud newidiadau bach. Roedd yr adborth yn wych a gwelir llawer o ddanteithion iach yn cael eu cynnig a’i blasu yn ystod y bore. Roedd yn bendant yn fore i’w gofio a fydd yn arwain at ddyfodol o ddewisiadau mwy iachus a gwybodus.