Canlyniadau Safon Uwch 2018


Braf yw gallu llongyfarch holl ddisgyblion blwyddyn 13eg ar eu canlyniadau Safon Uwch eleni. Mae’r deilliannau yma yn ganlyniad i’r holl waith caled, dros nifer o flynyddoedd, bellach dalu ffrwyth. Llwyddodd dros 97% o’n disgyblion i gyrraedd y trothwy Lefel 3, sef o leiaf 2 Safon Uwch A*-E. O’r holl raddau enillodd ein disgyblion, roedd 27% ohonynt yn raddau A*/A gyda 79% yn raddau A*-C. Mae’r Fagloriaeth eto yn profi yn faes o lwyddiant i’n disgyblion gydag 88% yn ennill graddau A*-C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a 32% yn ennill graddau A*/A – campus! Braf hefyd yw nodi llwyddiannau ein disgyblion yn eu cyrsiau galwedigaethol gyda phob un yn profi llwyddiant. Golyga hyn fod pob un o’n disgyblion a wnaeth gais wedi derbyn lle ym mhrifysgol eu dewis.

Yn arwain y ffordd eleni gydag o leiaf 3 gradd A*/A roedd Leya Prosser ac Iwan Tomos a llwyddodd Rhydian Cleaver, ein Prif Fachgen, i ennill 4 A*/A. Rhaid estyn llongyfarchiadau arbennig hefyd i’n Prif Ferch, Jasmine Lewis, ar ganlyniadau arbennig wrth iddi ennill 5 gradd A* Safon Uwch – y gorau erioed ym Mryn Tawe!

Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu gwaith trylwyr a di-flino wrth gefnogi ein disgyblion ac i’n rhieni am eu cefnogaeth parhaus. Dymuniadau gorau i bob un o ddisgyblion 13eg eleni sydd yn ein gadael i ddechrau ar bennod newydd a chyffrous yn eu bywydau – diolch o galon am eich cyfraniad gwych i fywyd Bryn Tawe a phob llwyddiant i bob un ohonoch i’r dyfodol – cofiwch, ‘Ennill Llwyr yw Ennill Iaith’!