Newyddion Trist


Rydym wedi ein hysgwyd tipyn gyda’r newyddion trist am golli un o gyn aelodau’r staff, Ms Siwan Ellis. Mae staff yr ysgol yn teimlo colled Siwan yn fawr. Roedd Siwan yn un o’r staff gwreiddiol pan agorodd Bryn Tawe yn 2003 a roedd gyda ni fel Pennaeth yr Adran Saesneg tan 2013. Roedd yn uchel ei pharch ymysg y staff ac yn athrawes boblogaidd iawn gyda’r disgyblion. Y disgyblion oedd bwysicaf i Siwan; roedd yn athrawes ardderchog wnaeth ysbrydoli ein disgyblion i ddysgu.

Hoffwn estyn cydymdeimlad pawb ym Mryn Tawe i deulu Siwan yn y cyfnod trist iawn yma.