Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus 2018


Eleni eto cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus (cyfrwng Cymraeg) yn yr ysgol i’r disgyblion hŷn o flynyddoedd 10-13. Ddydd Iau, Medi’r 27ain, cymrodd pump o dimau ran gyda phynciau’r areithiau’n amrywiol a chyfredol, o drafodaeth am wefannau cymdeithasol i Walt Disney! Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled yn paratoi at y gystadleuaeth – Heledd, Nel, Towyn, Catrin, Steffan, Carys, Ashton, Anwen, Ffion, Nansi, Kirsty, Caitlyn, Hollie, Becca a Rhys. Edrychwn ymlaen at gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari nawr pan fydd tri o’r siaradwyr yn cynrychioli Bryn Tawe. Ymlaen â’r dadlau!