Noson Ffilm


Fel rhan o’n cyfraniadau at elusennau eleni, rydym am gynnal noson ffilm calan gaeaf ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 i 9, er mwyn codi arian ar gyfer yr elusen ‘Young Minds’. Bydd cyfle i’ch plentyn wylio’r ffilm ‘Goosebumps’(PG) ar ôl ysgol o 3:10 tan 5:00 ar ddydd Iau Hydref 25ain 2018. Rydym yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd o gadw cydbwysedd rhwng ysgol a bywyd tu allan i’r ysgol ac rydym yn teimlo bydd cynnal y noson yma yn rhoi cyfle gwych iddynt i gymdeithasu, ymlacio a mwynhau. Rydym yn gofyn am daliad o £2.50 er mwyn gwylio’r ffilm. Bydd y taliad yma yn cynnwys pecyn o ‘popcorn’ gyda mynediad i’r ffilm. Bydd hefyd cyfle i’ch plentyn i brynu diodydd meddal a bwydydd amrywiol ar y noson.

Gobeithiwn yn fawr bydd eich plentyn yn awyddus i ymuno â ni i wylio’r ffilm ac i fwynhau.