Bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod gwisg anffurfiol a bore coffi Dydd Gwener yma (26/10/18) i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan a The Elis Rose Legacy Fund.
A fydd modd i’ch plentyn ddod â £1 ar gyfer y wisg anffurfiol ac arian ychwanegol i’w wario yn y bore coffi.
Os hoffech gyfrannu cacennau, a fydd modd eu danfon i’r ysgol gyda’ch plentyn ar ddydd Gwener?
Diolch o galon am eich cefnogaeth,
Cyngor Elusennol yr ysgol