Llwyddiant ESU


Llongyfarchiadau i’r chwe disgybl o flwyddyn 10 am gystadlu yn rownd ranbarthol Abertawe yr ESU. Llwyddodd tîm Ffion, Anwen a Lowri gipio’r ail wobr gyda Ffion yn ennill gwobr unigol am y cadeirydd orau. Wnaeth Anwen gyflwyno araith ddiddorol ar y testun o lyfrau dadleuol, tra llwyddodd Jack i gyflwyno araith hynod o ddifyr ar ddibyniaeth bobl ifanc ar y we. Rhaid hefyd canmol Ashton a William am eu cyfraniadau gwerthfawr i’w timoedd. Roedd safon hynod o uchel yn y gystadleuaeth a rhaid llongyfarch y tîm buddugol o Ysgol Gyfun Gŵyr, wrth ddymuno’n dda iddynt yn rownd derfynol Cymru.