Cystadleuaeth ‘Young Business Dragons’ 2018


Fe wnaeth Amy Johnson, Anwen Morgan, Ashton Williams, Ffion Tomos, Grace Lancey, Hannah Willett a Lowri James gymryd rhan yn gystadleuaeth Young Business Dragons rhanbarth Abertawe. Fe wnaeth y saith ohonynt gystadlu’n dda gan gynrychioli’r ysgol yn arbennig. Ei syniad nhw oedd drych a oedd yn sganio eich dannedd i wirio am blac a bacteria ar eich dannedd ac mae’n dangos i chi le sydd angen brwsio. Fe wnaeth agoriad y pitsh tynnu sylw’r beirniad fel un cofiadwy iawn. Fe wnaethant werthu ei syniad yn llwyddiannus iawn gan gael adborth positif tu hwnt. Rwyf yn falch iawn o bob un ohonynt am ei ymroddiad at y prosiect, ac mae’r grŵp cyfan yn ddiolchgar iawn i’w mentor Stacey Adamiec.