Llwyddiant Shakespeare


Eto eleni, mae’r adran Saesneg wedi cymryd rhan yn Ŵyl Ysgolion Shakespeare. Fe wnaeth 18 disgybl o flwyddyn 10 ac un o flwyddyn 9 perfformio detholiad 30 munud o’r ddrama y Dymestl (The Tempest) yn Theatr Taliesin, Abertawe, ar nos Wener 16eg o Dachwedd.

Ar ôl broses o glyweliadau cyn yr haf, fe wnaeth disgyblion mynd ati i ymarfer gwaith Shakespeare mewn sesiynau ar ôl ysgol gyda Miss Comley. Roedd y disgyblion yn awyddus i greu perfformiad modern, ac wedi diweddaru’r stori i gynnwys y cymeriadau yn teithio ar awyren yn hytrach na llong i ddechrau’r sioe.

Ymhlith y cast roedd disgyblion sydd eisoes wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth Perfformio Shakespeare yn genedlaethol gyda’r ESU (English Speaking Union). Roedd Ffion Tomos wedi cymryd rôl Ariel ac  Anwen Morgan fel Antonio, y brawd cas. Roedd enillwyr Perfformiad Deuawd Gorau’r ESU, sef Ashton Williams a Siôn Thomas, wedi cymryd i’r llwyfan unwaith eto wrth chwarae Ferdinand a Caliban.

Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion am eu hymrwymiad i’r prosiect eleni. Maen nhw wedi gweithio’n galed ac mae hi wedi bod yn bleser i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, talentog Bryn Tawe unwaith eto. Diolch o galon i Miss Comley am gyfarwyddo’r prosiect.