Adran y Gymraeg a Phrifysgolion


Diolch yn fawr i Eurig Salisbury o Brifysgol Aberystwyth am ddod i siarad â’r criw Safon Uwch Cymraeg yn ddiweddar, ac i Angharad Naylor o Brifysgol Caerdydd am gynnal sesiwn yn yr un modd. Diolch yn fawr hefyd i Academi Hywel Teifi am drefnu diwrnod o ddarlithoedd yn ymwneud â’r Cwrs Safon Uwch Cymraeg yn ddiweddar yn y Brifysgol. Elwodd y disgyblion yn fawr o’r cyfleoedd hyn.