Dadleuwyr Disglair


Llongyfarchiadau gwresog i dimau iau a hŷn Bryn Tawe ar ennill rownd ranbarthol cystadleuaeth siarad gyhoeddus (Saesneg) y Rotari yn Neuadd y Dref, Llanelli ar nos Fawrth, 15fed Ionawr. Roedd perfformiad y ddau dîm yn destun balchder i’r Ysgol a’u hyfforddwr, Mr Chris Shaw. Llwyddodd y tîm iau, sef Steffan, Jonah a Sonny (o flwyddyn 8) cyflwyno’n ddiddorol ar effaith bositif nofelau Harry Potter gyda Steffan yn ennill gwobr unigol am y cadeirydd gorau, a Jonah yn ennill clod am ei rôl fel y diolchwr gorau. Roedd y tîm hŷn hefyd wedi cipio’r wobr gyntaf yn ei chategori, gyda chyfraniadau ardderchog gan Caitlyn, Manon a Nansi. Unwaith eto, yn ogystal â llwyddiant fesul tîm, lwyddodd Manon i ennill gwobr siaradwraig orau am gyflwyno araith bwerus ar Paddington Bear! Hefyd, enillodd Nansi’r wobr am y diolchwraig orau! Bydd y ddau dîm bellach yn symud ymlaen i’r rownd nesaf yn y Fenni ym mis Mawrth. Dymunwn yn dda iawn iddynt!