Cynhaliwyd ein Seremoni Gadeirio fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i rai o brif ddisgyblion yr ysgol, sef Chloe Steer (dirprwy prif ferch) a Curtis Richards (prif fachgen).
Eleni, Mrs Rhian Edwards Jones, sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, oedd y beirniad. Diolchwn iddi am ei holl waith trylwyr wrth feirniadu. Daeth hi’n amlwg bod y gystadleuaeth o safon uchel ac nad tasg hawdd oedd beirniadu!
Roedd ‘Y Graig’ wedi plesio’r beirniaid yn fawr. Hyfryd oedd gweld Nel Richards o Flwyddyn 13 yn codi o’i sedd yng nghefn y neuadd lawn i dderbyn y fraint o fod yn brif lenor yr ysgol eleni. Llongyfarchiadau enfawr iddi. Yn gydradd ail am y gadair oedd Caitlyn White a Steffan Leonard, ac yn gydradd drydydd oedd Heledd Owen a Nansi Eccott! Hoffai’r Adran Gymraeg ddiolch yn fawr i bawb a gystadlodd ac yn arbennig i’r staff a’r disgyblion a fu’n rhan o’r seremoni- yn enwedig Rhys Whatty am gyfeilio ar y delyn, Kirsty Lewis am ganu cân y cadeirio, Rachel Hadley am ganu’r ffanffer a Amelia Williams a Llew Wood am gyrchu’r buddugol. Hyfryd hefyd oedd gweld cynrychiolwyr o bob blwyddyn ar y llwyfan a hwythau wedi’u dewis am ymrwymiad i Gymreictod yn yr ysgol.
Llongyfarchiadau hefyd i Jack Thomas am ennill y Tlws Saesneg.
Dyma’r canlyniadau llenyddol eraill:
Rhyddiaith bl7
1af Keira Hopkins
2il Emyr Williams
3ydd Bria Haigh
Barddoniaeth bl7
1af Lewis Rowlands
2il Finlay Lizka-Cook
3ydd Elia Davies
Barddoniaeth bl8
1af Steffan Thomas
2il Ella Mai Davies
3ydd Grace Browne
Rhyddiaith bl8
1af Ella Mai Davies
2il Keeley Evans
3ydd Holly Crocker
Barddoniaeth bl9
1af Siôn Thomas
2il Mirain Owen
3ydd Morgan Davies
Rhyddiaith bl9
1af Annest Cunliffe
2il Morgan Davies
3ydd Williams Rowlands
Barddoniaeth bl10
1af Ben Lervy ac Eve Buckmaster
2il Jack Thomas
3ydd Ethan Byrne
Rhyddiaith bl10
1af Ffion Tomos
2il Anwen Morgan
3ydd Raife Jones
Cystadleuaeth adolygiad ffilm
1af Ethan Perman
2il Ashton Williams
3ydd Lara Davies