Taith Bontio Safon Uwch


Aeth criw o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch ar daith gyda chriw o fl.11 sy’n ystyried astudio’r Gymraeg y flwyddyn nesaf i Aberystwyth am noson yn ystod mis Tachwedd. Gadawyd yr ysgol amser te ac wedi setlo yn llety’r Brifysgol ar gampws Aberystwyth, anelwyd am fwyty Byrgyr am y Prom am wledd a noson o gystadlaethau ysgafn- yn dasgau llenyddol a heriau hwyl eraill. Wedi brecwast yn y Byncws yn Aberystwyth, cafwyd sesiwn am gynghanedd yng nghwmni Eurig Salisbury, yna sesiwn gan Bleddyn Owen Huws am Dafydd ap Gwilym. Wedi hynny, croesawyd tri atom i roi gair o brofiad o ran cyflogadwyedd- am y modd y mae Cymraeg Safon Uwch a/ neu radd yn y Gymraeg wedi bod o fudd iddynt. Lefi Gruffudd oedd yr ymwelydd cyntaf o Wasg y Lolfa, yna Sulwen Richards sy’n gweithio i Adran Farchnata’r Brifysgol, a Miriam Glyn sy’n gyfieithydd i Lywodraeth Cymru. Cyn cinio, galwodd tair cyn-ddisgybl i mewn i sôn am eu profiad hwythau o astudio’r Gymraeg. Wedi cinio blasus yng Nghanolfan y Celfyddydau, aethon ni i’r “Drwm” yn y Llyfrgell Genedlaethol i fwynhau sesiwn gyda Peredur Lynch am yr Hengerdd ac yna sgwrs gyda Caryl Lewis ar ddiwedd y dydd. Ar y ffordd nol i’r ysgol amser te dydd Sadwrn, galwyd ger cofeb Tryweryn am lun o’r criw cyfan. Cwrs Pontio Safon Uwch llwyddiannus a fydd gobeithio yn ysbrydoli rhai o fl.11 i astudio’r cwrs y flwyddyn nesaf.