Dydd Miwsig Cymru


Roedd dydd Gwener y 7fed o Chwefror yn ddiwrnod arbennig! Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru, gwahoddwyd criw o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Gwyr i gael awr o ddisgo a chyfle  fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Roedd disagyblion blwyddyn 8 wrth eu boddau yn dawnsio a chymdeithasu tra’n gwrando ar y gerddoriaeth. Diolch yn fawr i’r ddwy DJ – Nansi a Caitlin o fl 13 Bryn Tawe – am gyflwyno’r disgyblion i gerddoriaeth fodern Gymraeg. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!