Eisteddfod yr Ysgol


Mae Eisteddfod yr Ysgol yn un o uchafbwyntiau’r calendr Ysgol. Yn ein Ysgol mae yna 4 llys – Hopcyn, Crwys, Gomer a Gwyrosydd. Dros y dyddiau diwethaf aeth disgyblion y llysiedd ati’n ddiwyd I ymarfer a mireinio’u perfformiadau ar gyfer yr Eisteddfod. Y cystadlaethau oedd, can iaith dramor, stori a sain, sgets a dehongliad o gerdd. Can y cor eleni oedd Yma o Hyd yn dilyn llwyddiant y gan yn siartiau Apple yn ddiweddar.  Y llys buddugol eleni oedd Llys Crwys. Llongyfarchiadau iddy nhw!