Mae’r Awdurdod Lleol am i ni gynnig y ddarpariaeth ofal plant argyfwng dros benwythnosau, gan ddechrau ar benwythnos y 11eg a’r 12fed o Ebrill (penwythnos y Pasg). Dim ond ar gyfer gweithwyr critigol sydd yn gweithio i’r gwasanaethau golau glas, neu i weithwyr gofal iechyd fydd y gwasanaeth yma (rhiant sengl neu deulu ble mae’r ddau riant yn gweithio yn y ddau faes yma). Ni fydd y penwythnosau ar gael i bob categori o weithwyr critigol. Os ydych yn rhagweld y byddwch yn gorfod defnyddio’r gwasanaeth yma, llenwch y taflenni isod a’u danfon yn ôl i DaviesS456@hwbcymru.net erbyn ddydd Iau yr 2ail o Ebrill.